Cwestiynau Cyffredin - Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian
Mae'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian yn cael ei gynnal gan y Rheoleiddiwr Codi Arian, y rheoleiddiwr annibynnol codi arian elusennol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae'r Rheoleiddiwr Codi Arian yn cynnal y Gwasanaeth Dewis Codi Arian fel y gall pobl wneud cais i beidio â derbyn cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol gan elusennau wedi'u cofrestru yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon mwyach. Cewch ragor o fanylion ar wefan y Rheoleiddiwr Codi Arian.
Os nad ydych chi'n medru cwblhau eich cais gan ddefnyddio gwefan y Gwasanaeth Dewis Codi Arian, cewch ddefnyddio eich llinell gymorth trwy ffonio 0300 3033 517.
Nid yw galwadau i rif 03 yn costio mwy na galwadau i rifau lleol neu genedlaethol (rhifau 01 neu 02) a rhaid eu cynnwys mewn munudau cynhwysol yn yr un modd. Mae'r costau'n dibynnu ar nifer o ffactorau megis cynlluniau galw unigol ac amser gwneud yr alwad. Edrychwch ar wefan Ofcom am ragor o wybodaeth.
Gall y Gwasanaeth Dewis Codi Arian atal cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol gan elusennau wedi'u cofrestru â Chomisiwn Elusennau Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Marchnata uniongyrchol yw unrhyw gyswllt sy'n holi am godi arian, megis cais am gyfraniad. Gall y Gwasanaeth Dewis Codi Arian atal:
- llythyrau gyda'ch enw a'ch cyfeiriad chi
- negeseuon e-bost
- galwadau ffôn
- negeseuon testun
Cewch ddewis y rhain yn unigol neu ddewis pob dull.
Nodwch, os gwelwch yn dda, y gallai elusen fod angen cysylltu â chi am resymau eraill, megis:
- prosesu neu weinyddu rhodd neu archeb sefydlog a wnaed eisoes
- cyflawni'r weithdrefn prynu tocyn neu brynu eitem fanwerthu arall
- lle bo gennych chi fath arall o aelodaeth neu danysgrifiad i'r elusen, fel tanysgrifiad i gylchgrawn, er enghraifft.
Nid yw'r rhesymau hyn am gysylltu yn farchnata uniongyrchol, felly ni fydd y Gwasanaeth Dewis Codi Arian yn atal y math yma o gyswllt. Dylech siarad â'r elusen yn uniongyrchol os nad ydych chi'n dymuno cyfathrebiadau ganddi nad ydynt yn ymwneud â chodi arian.
Bydd y Gwasanaeth Dewis Codi Arian yn atal marchnata uniongyrchol trwy gyfrwng llythyrau gyda'ch enw a'ch cyfeiriad chi, negeseuon e-bost, galwadau ffôn a negeseuon testun gan elusen benodol. Ni all atal:
- Pobl sy'n dod at eich drws i godi arian
- Pobl sy'n codi arian ar y stryd
- Danfon bagiau elusen i'ch cyfeiriad chi; neu
- Post nad yw'n cynnwys eich enw chi ond sydd wedi ei gyfeirio at 'Y Preswyliwr'.
Mae hyn oherwydd nad yw'r math yma o godi arian yn eich targedu chi'n benodol; mae'r elusen wedi dewis eich ardal neu eich cod post chi fel lleoliad codi arian.
Hefyd ni fydd y Gwasanaeth Dewis Codi Arian yn atal cyfathrebiadau gan sefydliadau nad ydynt yn elusennau cofrestredig. Er enghraifft, cwmnïau masnachol sy'n dymuno gwerthu nwyddau a gwasanaethau i chi. Efallai y medrwch atal cyfathrebiadau anneisyf fel yma trwy wasanaethau eraill fel y Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn a'r Gwasanaeth Dewis Post. Cewch ragor o wybodaeth am hyn isod.
Hefyd ni fydd y Gwasanaeth Dewis Codi Arian yn terfynu unrhyw gyfraniadau debyd uniongyrchol rydych chi eisoes wedi cydsynio iddynt. Rhaid i chi gysylltu â'r elusen yn uniongyrchol i derfynu'r rhain.
Nac oes. Nid oes arnoch chi angen enw defnyddiwr a chyfrinair i ddefnyddio'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian.
Bob tro y byddwch chi'n cyflwyno cais trwy'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian gofynnir i chi nodi eich manylion cyswllt fel bo'r elusennau'n medru dod o hyd i chi yn eu cronfeydd data a thynnu eich manylion o'u rhestrau marchnata uniongyrchol. Byddwn yn gofyn i chi roi cyfeiriad e-bost neu rif ffôn i ni hefyd fel y gall y Gwasanaeth anfon cod cyfeirnod atoch chi i gadarnhau y derbyniwyd eich cais.
Os ydych chi eisiau holi am gais a wnaethoch yn flaenorol bydd angen i chi nodi'r cod cyfeirnod hwn ar dudalen cais dilynol gwefan y Gwasanaeth Dewis Codi Arian. Os na fedrwch chi ddod o hyd i'ch cod cyfeirnod, cewch ofyn i'r gwasanaeth eich atgoffa am y cod ar y dudalen nesaf.
Cewch ddewis hyd at 10 elusen yn ystod unrhyw un ymweliad â gwefan y Gwasanaeth Dewis Codi Arian.
Os hoffech chi atal cyfathrebiadau gan fwy na 10 elusen, bydd angen i chi gyflwyno cais newydd i'r Gwasanaeth. Gofynnir i chi fewnbynnu eich manylion cyswllt bob tro fel y gall yr elusennau ddod o hyd i chi yn eu cronfeydd data ac thynnu eich manylion o'u rhestrau marchnata uniongyrchol.
Y dewis arall yw atal cyswllt gan hyd at 20 elusen trwy ffonio 0300 3033 517.
Mae'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian angen casglu data personol gennych chi fel y medrwn weinyddu'r gwasanaeth ac fel y gall elusennau ddod o hyd i chi yn eu cronfeydd data a thynnu eich manylion o'u rhestrau marchnata uniongyrchol.
Bydd yr elusennau rydych chi'n eu dewis yn cael eich data chi trwy borth elusen diogel y Gwasanaeth Dewis Codi Arian. Bydd y data'n cael ei ddefnyddio ganddynt at ddibenion cyfateb y manylion a ddarparwyd gennych chi yn erbyn eu cronfa/cronfeydd data. Edrychwch ar bolisi preifatrwydd y Gwasanaeth Dewis Codi Arian am ragor o wybodaeth.
Na fedrwch. Unwaith y bo eich cais i'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian wedi'i gyflwyno ni fedrwch newid yr wybodaeth a gyflwynwyd. Gwnewch gais arall os ydych chi'n dymuno cyflwyno gwybodaeth bersonol ychwanegol neu ddiweddu'r cysylltiadau gan ragor o elusennau.
Gallai gymryd hyd at 21 diwrnod i elusen roi'r gorau i gysylltu â chi. Mae hyn oherwydd bod llawer o elusennau'n cynllunio eu cyfathrebiadau ymlaen llaw ac efallai na fedrant ddileu eich manylion cyswllt chi os yw'r trefniadau cyfathrebu wedi'u gwneud eisoes.
Os ydych chi'n parhau i dderbyn cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol fwy na 21 diwrnod ar ôl cyflwyno cais i'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian, cewch gyflwyno cais dilynol. Ewch i'r dudalen cais dilynol ar wefan y Gwasanaeth Dewis Codi Arian a nodi eich cod cyfeirnod. Byddwn yn anfon hysbysiad arall i'r elusen i'w hysbysu eich bod wedi parhau i dderbyn cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol ganddi.
Os ydych chi'n parhau i dderbyn rhagor o gyfathrebiadau ar ôl cyflwyno'r cais dilynol, cewch wneud cwyn am yr elusen i'r Rheoleiddiwr ElusennauCewch ragor o wybodaeth am hyn isod.
Pan fyddwch chi'n cyflwyno cais i'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian rydym yn anfon cod cyfeirnod atoch chi trwy neges e-bost neu neges destun i gadarnhau y derbyniwyd eich cais. Os na fedrwch chi ddod o hyd i'ch cod cyfeirnod, cewch ofyn am gael eich hatgoffa ar y dudalen cais dilynol.
Medrwch. Efallai y byddwch chi'n dymuno'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian ar ran ffrind, perthynas, rhywun rydych chi'n gofalu amdano/amdani neu rywun sydd wedi marw. Gofynnir i chi:
- Ddarparu manylion cyswllt yr unigolyn rydych chi'n cyflwyno'r cais ar ei ran, yn cynnwys yr enw llawn, y cyfeiriad a'r dull(iau) cyfathrebu maent yn ddymuno eu hatal, megis negeseuon i'w cyfeiriad e-bost neu alwadau i'w rhif ffôn.
- Rhowch eich enw, eich manylion cyswllt a manylion am eich perthynas â'r unigolyn dan sylw. Mae arnom ni angen eich manylion cyswllt chi i anfon cod cyfeirnod a chadarnhau y gwnaed cais i'r Gwasanaeth Dewis codi Arian.
Wrth ddefnyddio'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian ar ran unigolyn sy'n fyw bydd arnom ni angen cadarnhau fod gennych chi'r awdurdod i weithredu ar eu rhan. Byddwn yn anfon llythyr trwy'r post at yr unigolyn rydych chi'n gweithredu ar ei ran i'w hysbysu bod eu manylion wedi'u mewnbynnu i system y Gwasanaeth Dewis Codi Arian. Os nad ydych chi'n dymuno i ni anfon llythyr at yr unigolyn rydych chi'n gweithredu ar ei ran, gwnawn ofyn i chi am dystiolaeth fod gennych chi atwrneiaeth. Ffoniwch ni ar 0300 3033 517 os ydych chi'n dymuno gwneud hyn.
Os ydych chi'n gwneud cais ar ran unigolyn sydd wedi marw ni fyddwn yn anfon llythyr cadarnhau at yr unigolyn.
Os yw elusen yn cysylltu â chi ac rydych chi'n credu na ddylai feddu ar eich manylion chi gan nad ydych chi wedi cysylltu â'r elusen yn y gorffennol, dylech gysylltu â'r elusen yn gyntaf i fynegi eich pryderon fel y gall ymchwilio. Os ydych chi'n anfodlon ag ymateb yr elusen cewch gysylltu â'r Rheoleiddiwr Codi Arian trwy ei ffurflen gwynion. Gallai fod yn ddefnyddiol cyfeirio eich cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth hefyd, fel y rheoleiddiwr arweiniol ym maes data.
Am elusen rydw i'n parhau i gael cyfathrebiadau ganddi ar ôl gwneud cais i'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian
- Gofynnwn i chi aros am 21 diwrnod o ddyddiad eich cais i'r Gwasanaeth, os gwelwch yn dda, er mwyn i'r elusen ddiweddaru ei chofnodion.
- Os yw'n parhau i gysylltu â chi, gwnewch gais dilynol gan ddefnyddio eich cod cyfeirnod.
- Os ydych chi'n parhau i dderbyn cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol gan yr elusen a'ch bod yn dymuno cwyno am yr elusen dan sylw, cewch gysylltu â'r Rheoleiddiwr Codi Arian trwy gyfrwng y ffurflen gwynion hon.
Am y Gwasanaeth Dewis Codi Arian
Os ydych chi'n dymuno cwyno am y Gwasanaeth Dewis Codi Arian, anfonwch neges e-bost i fps@fundraisingregulator.org.uk neu ffoniwch 0300 3033 517. Os ydych chi'n anfodlon â'n ymateb ni i'ch cwyn, dylech ddilyn proses 'cwyno amdanom ni' y Rheoleiddiwr Codi Arian. .
Medrwch. Bydd angen i chi gysylltu â bob elusen yn uniongyrchol i'w hysbysu eich bod yn rhoi eich caniatâd iddynt anfon cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol atoch chi. Trwy roi'r cadarnhâd hwn ni fydd y cais i'r Gwasanaeth Dewis Codi Arian yn weithredol mwyach a bydd gan yr elusen yr hawl i gysylltu â chi.
Dyluniwyd y Gwasanaeth Dewis Codi Arian i gynorthwyo pobl i reoli cyfathrebiadau gan elusennau wedi'u cofrestru yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae rheoleiddio codi arian yn yr Alban yn wahanol i'r system sy'n bodoli yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Caiff pobl sy'n byw yn yr Alban ddefnyddio'r Gwasanaeth i atal cyfathrebiadau gan elusennau wedi'u cofrestru yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sy'n codi arian yn yr Alban. Os oes gennych chi bryderon am arferion codi arian elusennau wedi'u cofrestru yn yr Alban yn unig cysylltwch â Phanel Dyfarnu Codi Arian yr Alban, os gwelwch yn dda.
Gall y Gwasanaeth Dewis Codi Arian atal cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol gan elusennau penodol. Ni all atal pob cyfathrebu gan elusennau nac atal cwmnïau masnachol rhagor cysylltu â chi. Gallai'r gwasanaethau isod eich cynorthwyo chi:
- Gwasanaeth Dewis Ffôn (TPS): gwasanaeth am ddim sy'n eich galluogi chi i fod ar y gofrestr swyddogol i beidio â chael galwadau gwerthu a marchnata heb eu trefnu. Ewch i wefan y gwasanaeth Gwasanaeth Dewis Ffôn neu ffoniwch 0345 070 0707 i gael rhagor o wybodaeth.
- Gwasanaeth Dewis Post (MPS): gwasanaeth am ddim sy'n eich galluogi chi i ddileu eich enw a'ch cyfeiriad cartref oddi ar restrau postio uniongyrchol a ddefnyddir gan fusnesau. Ewch i wefan y Gwasanaeth Dewis Post neu ffoniwch 0207 291 3310 i gael rhagor o wybodaeth.
- Post Brenhinol o ddrws i ddrws: dylai'r gwasanaeth am ddim hwn atal y rhan fwyaf o bost digyfeiriad, anneisyf a ddosberthir gan y Post Brenhinol. Ewch i Ganolfan Gymorth Cwsmeriaid Personol y Post Brenhinol neu ffoniwch 0345 266 0858 i gael rhagor o wybodaeth.
- Gwasanaeth 'Call Protect' BT: gwasanaeth am ddim i gwsmeriaid BT i atal galwadau niwsans. Ewch i wefan BT neu ffonio 0800 328 1572 a dilyn y cyfarwyddiadadu.
- Deceased Preference Service: gwasanaeth am ddim a weithredir gan y Co-op Group. Ewch i wefan y Deceased Preference Service neu ffoniwch 0800 068 4433 i gael rhagor o wybodaeth.
Y Rheoleiddiwr Codi Arian sy'n gyfrifol am y Gwasanaeth Dewis Codi Arian. Os oes gennych chi gwestiwn nad yw wedi'i ateb uchod, cysylltwch â ni trwy:
E-bost: FPS@fundraisingregulator.org.uk
Ffônl: 0300 3033 517
Post: Y Gwasanaeth Dewis Codi Arian / Fundraising Preference Service, Eagle House, 167 City Road, Llundain, EC1V 1AW
Diweddariad diwethaf: 11 Chwefror 2021